Myfyriwr Nyrsio Oedolion yn cael ei derbyn ar Raglen #150Leaders fawreddog Cyngor y Deoniaid Iechyd
Nod Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr Cyngor y Deoniaid Iechyd (a ariennir yn rhannol gan Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett) ac a elwir yn eang fel #150Leaders, yw hyrwyddo a datblygu sgiliau arwain ymhlith myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Bob blwyddyn gwelir cyfle i 50 o ymgeiswyr sy'n fyfyrwyr gael eu dewis ledled y DU i gymryd rhan yn y cyfle rhyfeddol hwn. Mae'r cwrs, sy'n rhedeg o fis Medi-Ebrill, yn cynnwys cwrs preswyl deuddydd (yn ddarostyngedig i ganllawiau'r Llywodraeth) wedi'i lenwi â seminarau, gweithdai a darlithoedd. Yn ogystal, mae cyfranogwyr wedi ymrestru ar gynllun hyfforddi, sy'n caniatáu’r cyfle gwych gael hyfforddiant gan arweinwyr yn y maes a fydd yn rhannu eu taith eu hunain trwy arweinyddiaeth, yn ogystal â meithrin pob myfyriwr i ddatblygu ei arddull arwain ei hun. Mae yna gymuned ar-lein gref lle gall myfyrwyr rwydweithio a rhyngweithio â'i gilydd a'r gymuned ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol ac arweinwyr, yn ogystal â hyrwyddo'r rhaglen i gyd-fyfyrwyr. Anogir cyfranogwyr i arwain prosiect yn ystod y cwrs, gan ganiatáu iddynt roi eu sgiliau arwain ar waith.
Ymhellach i dderbyn adborth cadarnhaol o'i hardal lleoliad clinigol eleni, anogodd darlithwyr Gwyddorau Iechyd Chloe Scott, myfyriwr Nyrsio Oedolion, i wneud cais am y rhaglen. Roedd Chloe wedi dilyn taith cyn-fyfyrwyr #150Leaders ar Twitter; gweld y cyfleoedd a roddwyd iddynt, a chyflwynodd ei chais yn frwd. Mae Chloe yn cofio derbyn e-bost y cynnig “fel gwireddu breuddwyd - allwn i ddim stopio gwenu”.
Wrth drafod y cyfle dywedodd Chloe “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cynnig lle ar y Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr #150Leaders. Yn y proffesiwn nyrsio, rydym i gyd yn arweinwyr a ni yw eiriolwyr mwyaf ein cleifion. Mae'n bwysig i mi, y bydd y sgiliau arwain rwy'n eu hennill nawr, yn caniatáu imi gefnogi fy nghydweithwyr yn amgylchedd cyfnewidiol y gwasanaeth iechyd, yn ogystal â grymuso cleifion i gymryd yr awenau yn eu taith iechyd eu hunain. Rwy’n gyffrous i ddechrau’r her newydd hon a byddaf yn edrych ymlaen at rannu fy nghynnydd ar y ffordd, yn y gobaith y bydd yn ysbrydoli eraill i ymgeisio am raglenni yn y dyfodol ”.
Dywedodd y darlithydd Nyrsio Oedolion Naomi Jenkins ‘’Ar ôl cwrdd â materion iechyd yn ystod ei hyfforddiant, mae Chloe wedi dangos cryn wytnwch. Mae hi wedi cael adborth rhagorol gan ddau leoliad eleni ar ôl dangos ei sgiliau arwain a'i gofal sy'n canolbwyntio ar y claf; mae'r rhain yn rhinweddau y mae ein Hysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd yn eu cymeradwyo. Mae gwella ansawdd ac arweinyddiaeth yn hanfodol o fewn gofal iechyd, ac rwy'n hyderus y bydd Chloe yn parhau i gyflawni'r gofynion hyn fel myfyriwr ac yn ddiweddarach fel nyrs oedolion cymwys. Fel tiwtor personol Chloe rwy’n falch iawn o’i chefnogi gyda’i rôl newydd ar y Rhaglen Arweinyddiaeth #150Leaders.’’
Mae Prifysgol Bangor yn rhedeg pedwar llwybr gwahanol i Nyrsio (Oedolion, Plant, Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl) y gellir eu hariannu gan y GIG ar gyfer myfyrwyr statws ffioedd cartref. Darganfyddwch fwy am Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor ar y dudalen we hon.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cychwyn ym mis Medi 2021 ymwelwch â thudalen Clirio Bangor i weld pa gyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd ac i gofrestru'ch diddordeb neu wneud cais ar-lein nawr.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2021