Arwain y ffordd i gyflwyno Presgripsiynau dwyieithog

Rydym wastad yn cael ein cynghori i gymryd meddyginiaethau yn ôl cyfarwyddiadau’r doctor neu’r fferyllydd, ac y dylem ni ddilyn y cyfarwyddiadau ar y paced neu botel i’r llythyren.

Un ffordd o sicrhau hyn yw cyfleu’r cyfarwyddiadau mewn iaith glir sydd yn hawdd i’w deall- a dyma paham fod y canllawiau  rhybudd ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg am y tro cyntaf.

Mae gwasanaeth Gymraeg neu ddwyieithog yn hanfodol ar gyfer lles cleifion Cymraeg eu hiaith yn ôl ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Argymhelliad sydd wedi cael sêl bendith Prif Swyddog Fferyllol Cymru yw bod rhoi labeli dwyieithog ar feddyginiaethau presgripsiwn ar gael i gleifion.

Mae tîm sy’n cynnwys arbenigwyr iaith a fferyllwyr ym Mhrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd y camau cyntaf drwy gyfieithu 30 canllaw rhybuddiol sydd yn cael eu rhoi i gleifion sydd ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Bydd y rhain ar gael i bob fferyllfa a doctor, gan gynyddu’r  gefnogaeth iechyd sydd ar gael yn Gymraeg yn y GIG. Mae’r labeli ar gael yn argraffiad ar-lein y  British National Formulary, sef y cyfeirlyfr fferyllol safonol sydd yn cael ei defnyddio gan bobol sydd yn rhoi presgripsiwn, nyrsys a fferyllwyr o fewn y GIG, a bydd ar gael yn y copi printiedig nesaf.

Meddai Mair Martin, Fferyllydd Arweiniol-Gwybodaeth am Feddyginiaethau

 a fu’n arwain y project ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Gall dilyn canllawiau meddyginiaeth yn ofalus wneud gwahaniaeth sylweddol o ran canlyniadau  iechyd a defnydd diogel o feddyginiaethau. Rydym yn gobeithio  y bydd y cam cyntaf tuag at roi’r holl labeli rhybudd a chyngor ar gael yn y Gymraeg yn arwain at well dealltwriaeth o’r cyfarwyddiadau ar bresgripsiwn ac at sicrhau eu bod yn cael eu dilyn.”

Ar ran Prifysgol Bangor, dywedodd yr Athro Dyfrig Hughes o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau:

“Drwy rannu ein harbenigedd a’r gwahanol baneli defnyddwyr a chynulleidfaoedd yr ydym yn troi atynt, rydym  nid yn unig wedi cyfieithu’r canllawiau ond hefyd wedi eu profi er mwyn sicrhau eu bod yn ddealladwy i’r bobol sydd yn cymryd y meddyginiaethau. Rydym yn ddiolchgar i  bawb a  fu’n rhoi ymateb i ni ar ba mor glir oedd y cyfarwyddiadau. Mae hyn yn ffordd wych o rannu ein harbenigedd er budd cymaint o bobol â phosib.”

Mae’n dda gan Grŵp Strategol Cymru Gyfan ar Feddyginiaethgefnogi’r gwaith hwn. Mae’r Grŵp yn datblygu adnoddau i gefnogi’r rhai sydd yn rhoi presgripsiynau a chynyddu iechyd drwy ddefnydd diogel a chosteffeithiol o feddyginiaethau.

Roedd gan Dr Stuart Linton, Cadeirydd y Grŵp hyn i’w ddweud wrth groesawu’r lansiad:

“Rydym yn falch o gymeradwyo’r labeli rhybudd ar gyfer eu defnyddio yng Nghymru. Bydd cefnogaeth y Grŵp yn sicrhau bod gan fferyllwyr ar draws Cymru y dewis i ddarparu labeli dwyieithog ar feddyginiaethau ar bresgripsiwn, a bydd hyn yn fodd i wella dealltwriaeth y cleifion am y feddyginiaeth a sut mae ei defnyddio hi.”

Bydd y cyfieithiadau safonol yn cael eu lansio ar Chwefror 24 ar ddiwedd cyfarfod y Grŵp strategol Cymru Gyfan ar Feddyginiaeth.

Eglurodd yr Athro Dyfrig Hughes: “Nod yr astudiaeth hon oedd datblygu fersiynau Cymraeg o’r 30 o labeli rhybudd a chynghori. Mae hefyd angen cyfieithu dros 2000 o gyfarwyddiadau i’r Gymraeg, yn dilyn yr un dulliau cadarn. Fodd bynnag, bydd angen mwy o fuddsoddiad ariannol ar gyfer hynny.”

canllaw rhybuddiol sydd wedi eu cyfieithu 

Saesneg

Cymraeg

Caution: flammable. Keep your body away from fire or flames after you have put on the medicine

Rhybudd: Fflamadwy. Ar ôl rhoi'r feddyginiaeth ymlaen, cadwch yn glir o dân neu fflamau

Contains aspirin. Do not take anything else containing aspirin while taking this medicine

Yn cynnwys aspirin. Peidiwch â chymryd unrhyw beth arall sy'n cynnwys aspirin tra'n cymryd y feddyginiaeth hon

Contains paracetamol. Do not take anything else containing paracetamol while taking this medicine. Talk to a doctor at once if you take too much of this medicine, even if you feel well

Yn cynnwys paracetamol. Peidiwch â chymryd unrhyw beth arall sy'n cynnwys paracetamol tra'n cymryd y feddyginiaeth hon. Siaradwch gyda'ch meddyg ar unwaith os ydych yn cymryd gormod, hyd yn oed os ydych yn teimlo'n iawn

Dissolve or mix with water before taking

Gadewch i doddi mewn dŵr cyn ei gymryd

Dissolve the tablet under your tongue—do not swallow. Store the tablets in this bottle with the cap tightly closed. Get a new supply 8 weeks after opening

Rhowch y dabled i doddi dan eich tafod - peidiwch â'i lyncu. Cadwch y tabledi yn y botel yma gyda'r caead wedi'i gau yn dynn. Gofynnwch am dabledi newydd 8 wythnos ar ôl ei hagor

Dissolve this medicine under your tongue

Gadewch i’r feddyginiaeth hon doddi o dan y tafod

Do not take anything containing aspirin while taking this medicine

Peidiwch â chymryd unrhyw beth sy'n cynnwys aspirin gyda'r feddyginiaeth hon

Do not take indigestion remedies 2 hours before or after you take this medicine

Peidiwch â chymryd meddyginiaethau camdreuliad 2 awr cyn neu ar ôl y feddyginiaeth hon

Do not take indigestion remedies, or medicines containing iron or zinc, 2 hours before or after you take this medicine

Peidiwch â chymryd meddyginiaethau camdreuliad neu feddyginiaethau sy'n cynnwys haearn neu sinc, 2 awr cyn neu ar ôl y feddyginiaeth hon

Do not take milk, indigestion remedies, or medicines containing iron or zinc, 2 hours before or after you take this medicine

Peidiwch â chymryd llaeth, meddyginiaethau camdreuliad, neu feddyginiaeth sy’n cynnwys haearn neu sinc, 2 awr cyn neu ar ôl cymryd y feddyginiaeth hon

Do not take more than . . . in 24 hours

Peidiwch â chymryd mwy na .........mewn 24 awr

Do not take more than . . . in 24 hours. Also, do not take more than . . . in any one week

Peidiwch â chymryd mwy na .........mewn 24 awr, Hefyd, peidiwch â chymryd mwy na ........mewn wythnos

Do not take more than 2 at any one time. Do not take more than 8 in 24 hours

Peidiwch â chymryd mwy na 2 ar unrhyw un adeg. Peidiwch â chymryd mwy nag 8 mewn 24 awr

Protect your skin from sunlight—even on a bright but cloudy day. Do not use sunbeds

Diogelwch eich croen rhag golau'r haul, hyd yn oed ar ddiwrnod braf ond cymylog. Peidiwch â defnyddio gwely haul

Space the doses evenly throughout the day. Keep taking this medicine until the course is finished, unless you are told to stop

Gadewch yr un faint o amser rhwng pob dôs yn ystod y dydd. Parhewch i gymryd y feddyginiaeth nes bod y cyfan wedi'i orffen, oni bai eich bod yn cael cyngor i stopio

Spread thinly on the affected skin only

Taenwch yn denau ar y croen sydd wedi’i effeithio yn unig

Suck or chew this medicine

Bydd angen cnoi neu sugno’r feddyginiaeth hon

Swallow this medicine whole. Do not chew or crush

Llyncwch yn gyfan. Peidiwch â chnoi neu falu’n fân

Take 30 to 60 minutes before food

Cymerwch 30 i 60 munud cyn bwyd

Take this medicine when your stomach is empty. This means an hour before food or 2 hours after food

Cymerwch y feddyginiaeth hon ar stumog wag. Mae hyn yn golygu awr cyn, neu 2 awr ar ôl bwyd

Take with a full glass of water

Cymerwch gyda llond gwydr o ddŵr

Take with or just after food, or a meal

Cymerwch gyda neu ar ôl bwyd

This medicine may colour your urine. This is harmless

Gall y  feddyginiaeth hon liwio eich dŵr . Nid yw hyn yn arwydd o ddrwg

Warning: Do not drink alcohol

Rhybudd: Peidiwch ag yfed alcohol

Warning: Do not stop taking this medicine unless your doctor tells you to stop

Rhybudd: Peidiwch â stopio cymryd y feddyginiaeth hon, oni bai fod eich meddyg yn dweud wrthych am stopio

Warning: Read the additional information given with this medicine

Rhybudd: Darllenwch y wybodaeth ychwanegol gyda'r feddyginiaeth hon

Warning: This medicine makes you sleepy. If you still feel sleepy the next day, do not drive or use tools or machines. Do not drink alcohol

Rhybudd: Bydd y feddyginiaeth hon yn eich gwneud yn gysglyd. Os ydych yn dal i deimlo'n gysglyd drannoeth, peidiwch â gyrru, defnyddio offer llaw neu beiriannau. Peidiwch ag yfed alcohol

Warning: This medicine may make you sleepy

Rhybudd: Gall y feddyginiaeth hon eich gwneud yn gysglyd

Warning: This medicine may make you sleepy. If this happens, do not drive or use tools or machines

Rhybudd: Gall y feddyginiaeth hon eich gwneud yn gysglyd. Peidiwch â gyrru, defnyddio offer llaw neu beiriannau os yw hyn yn digwydd

Warning: This medicine may make you sleepy. If this happens, do not drive or use tools or machines. Do not drink alcohol

Rhybudd: Gall y feddyginiaeth hon eich gwneud yn gysglyd. Peidiwch â gyrru, defnyddio offer llaw neu beiriannau os yw hyn yn digwydd. Peidiwch ag yfed alcohol

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016