Cynrychiolaeth dda o fyfyrwyr o Gymru yng Ngwasanaeth Coffa Florence Nightingale

Yn ddiweddar cymerodd chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor ran mewn gwasanaeth seremonïol yn Abaty Westminster.

Roedd y pum myfyriwr nyrsio ac un myfyriwr bydwreigiaeth yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn yr 50fed Gwasanaeth Coffa Blynyddol i Florence Nightingale, lle canolbwyntiwyd ar gynrychiolwyr o garfan nyrsio myfyrwyr Cymreig.  

Trefnir y gwasanaeth, sy'n dathlu bywyd Florence Nightingale, gan The Florence Nightingale Foundation, sefydliad sy'n cefnogi nyrsys a bydwragedd gydag ysgoloriaethau, mentora a chydnabyddiaeth haeddiannol.

Roedd tua 2000 o bobl, yn cynnwys ffigurau amlwg cenedlaethol a rhyngwladol ac aelodau o'r lluoedd arfog, yn bresennol i ddathlu'r proffesiynau Nyrsio a Bydwreigiaeth, i anrhydeddu'r nyrsys hynny a fu farw'n gwasanaethu eraill ac i ddathlu bywyd a gwaddol Florence Nightingale.  Mae'r gwasanaeth yn gyfle hefyd i roi amlygrwydd i nyrsys a bydwragedd y dyfodol.

Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor:  

"Rydym yn ddiolchgar i'r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru ac un o ymddiriedolwyr y Sefydliad.   Mae’r Athro White yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor ac roedd yn eithriadol awyddus i gael cynrychiolaeth o Gymru.  Rydym yn hynod falch bod ein myfyrwyr ymysg y rhai a ddewiswyd i gynrychioli eu gwlad a'r proffesiynau y maent yn bwriadu eu dilyn."

Un o'r rhai'n cymryd rhan oedd Anna Coombs, myfyriwr ail flwyddyn 31 oed sy'n astudio maes Nyrsio Anabledd Dysgu.  
Meddai Anna: 

"Pan adewais yr ysgol euthum i astudio ffiseg ac yna gweithio ym maes ffiseg feddygol, delweddu MR yn arbennig.   Fodd bynnag, sylweddolais fy mod eisiau gweithio'n agosach â phobl a chymerais y cam braidd yn frawychus o adael y byd ffiseg feddygol a dechrau mewn swydd yn rhoi cymorth i oedolion gydag awtistiaeth ac anableddau dysgu.   Hwn oedd penderfyniad gorau fy mywyd!   Roeddwn wrth fy modd ac fe wnes i gyfarfod cymaint o bobl ryfeddol.  

Dewisais fynd i faes Anabledd Dysgu gan fy mod eisiau gwneud mwy i gefnogi pobl gydag anableddau dysgu, a thrwy hynny leihau'r anghydraddoldeb y maent yn ei wynebu o ran sicrhau gofal iechyd, fel y gall pawb ohonom fyw'r bywyd rydym ni'n ei ddewis, a'i fyw mor llawn ag y gallwn."  

Un arall a ddewiswyd i fynd i'r gwasanaeth oedd Katie Healey, myfyriwr ail flwyddyn nyrsio plant.  Cyn dechrau ei chwrs gradd, bu Katie, sy'n 25 oed, yn gweithio fel cynorthwywr dysgu mewn ysgol gynradd ac roedd yn hyfforddi i fod yn athrawes.  Fodd bynnag, penderfynodd newid cyfeiriad ac, ar ôl gwneud cwrs mynediad mewn iechyd a gofalu, cafodd ei dewis i astudio yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.  

"Roeddwn yn ei theimlo'n anrhydedd mawr cynrychioli Prifysgol Bangor yng Ngwasanaeth Coffa Florence Nightingale yn Llundain.  Roedd yn ddiwrnod cofiadwy ac roeddwn yn falch o fod yn rhan ohono - y tro cyntaf i Fangor gael cynrychiolaeth.  Dwi’n edrych ymlaen at gymhwyso'r flwyddyn nesaf a gweld i ble gwnaiff fy ngyrfa fy arwain," meddai.

"Ers dechrau'r cwrs, rwyf wedi bod yn ymwneud ag arwain cyfoedion a'r bennod 1000+ o fywydau.  Fi hefyd yw'r cynrychiolydd maes plant i bob un o'r tair carfan ac rwyf yn mynd i lawer o gyfarfodydd a chynadleddau i drosglwyddo negeseuon gan fy nghyfoedion.  Ar hyn o bryd, ynghyd â grŵp bychan o fyfyrwyr nyrsio o'r pedwar gwahanol faes nyrsio, rydym wrthi'n sefydlu Cymdeithas Myfyrwyr Nyrsio Prifysgol Bangor.

Yn cynrychioli'r garfan Nyrsio Iechyd Meddwl roedd Rose Sinclair, 20 oed.  Dyma ddywedodd hi:  

"Mae pobl a'u lles yn eithriadol bwysig i mi a dyna wnaeth fy arwain at y cwrs hwn, yn y gobaith y gallaf wella iechyd meddwl pobl yn y dyfodol.  Nid wyf wedi meddwl am faes penodol hyd yma, yr hyn sy'n bwysig i mi nawr yw dod yn ymarferwr cymwys a medrus sy'n gydymdeimladol a gwybodus ym mha bynnag le y byddaf yn gweithio ynddo ar ôl cymhwyso. Hoffwn ddefnyddio fy nghryfderau personol a'm dulliau ymarfer gorau i wella bywydau pobl."

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015