Arbed miliynau trwy roi'r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod Cymru

Gall buddsoddi mewn rhaglenni sy'n hyrwyddo'r dechrau gorau mewn bywyd i'n babanod a'n plant arwain at arbedion ariannol yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir.

Dyna yw dadl economegwyr iechyd yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor yn eu hadroddiad "Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc - y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar" a lansiwyd heddiw (13 Hydref 2016).

Mae CHEME yn rhan o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn cyfrannu at Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd Bangor (BIHMR) sy’n dod ag ymchwil iechyd ar draws y brifysgol at ei gilydd.  

Fel yr eglurodd awdur arweiniol yr adroddiad, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards: "Mae un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru heddiw. Gall y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyl byw 19 mlynedd yn llai mewn iechyd da na'r rhai a anwyd yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae Cymru eisoes yn gwario miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar ganlyniadau dechrau gwael mewn bywyd llawer o fabanod a enir heddiw. Mae'r rhain yn ffeithiau cydnabyddedig ac mae eu canlyniadau yn gostus iawn i'r economi a chymdeithas.

Mae gan Gymru eisoes gyfeiriad polisi a buddsoddiad sylweddol mewn rhaglenni ac arferion sy'n ymwneud â'r blynyddoedd cynnar. Er mwyn adeiladu ar hyn, bûm yn edrych ar y dystiolaeth economaidd i gefnogi buddsoddi mewn gwasanaethau a rhaglenni sydd wedi eu targedu at blant o dan 7 oed. Gwelwyd bod buddsoddi mewn iechyd a lles babanod a phlant ifanc yn rhoi cyfle i Gymru elwa yn y dyfodol o fuddiannau yn y tymor byr a'r tymor hir ym mhob rhan o gymdeithas."

Ffynhonell: Gwariant cyhoeddus gyfredol wedi ei selio ar ffigyrau gan y Swyddfa gyda Chyfrifoldeb am Gyllideb (2015)Ffynhonell: Gwariant cyhoeddus gyfredol wedi ei selio ar ffigyrau gan y Swyddfa gyda Chyfrifoldeb am Gyllideb (2015)Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at dystiolaeth bod y sylfeini ar gyfer ffynnu wedi'u gosod ymhell cyn genedigaeth, ac mae’r amser pwysig i fuddsoddi yw cyn cenhedlu ac yn ystod beichiogrwydd cynnar. Mae'r adroddiad yn tynnu ar dystiolaeth sy'n dangos y gall pob £1 a gaiff ei wario ar wasanaethau atal cenhedlu ddod ag arbedion o rhwng £11 ac £14 i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Hefyd mae darparu fitaminau hanfodol i bawb yn ystod beichiogrwydd cynnar yn debygol iawn o fod yn gost-effeithiol. Amcangyfrifir bod y gost ychwanegol a roddir ar wasanaethau mamolaeth GIG Cymru pan genir babanod â phwysau geni isel oherwydd ysmygu a ffactorau risg eraill y gellir eu haddasu, yn £2.15 miliwn y flwyddyn. Amcangyfrifir hefyd y gall cynyddu canran y merched sy'n bwydo ar y fron yn unig ar ôl 4 mis (9% ar hyn o bryd yng Nghymru) o gymharu â'r nifer adeg genedigaeth (57% yng Nghymru) arbed £1.5 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru wrth drin afiechydon plentyndod cynnar cyffredin.

Mae gan oddeutu 5% o blant Cymru rhyw fath o anhwylder ymddygiad. Mae costau'r sector cyhoeddus am blant gydag anhwylderau ymddygiad, deg gwaith yn fwy nag am blant heb unrhyw anhwylderau ymddygiad. Mae'r adroddiad yn pwysleisio y gall rhaglenni rhianta, os y'u cyflwynir yn dda, fod yn effeithiol a chost-effeithiol o ran atal a lleihau effeithiau tymor hir anhwylder ymddygiad mewn plant, gydag arbedion oes posibl o oddeutu £150,000 yr achos.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cyd-destun ehangach i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar trwy ystyried amgylchedd plant a chymunedau. Gan gydnabod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol a chwarae, mae'r adroddiad hefyd yn nodi y gall pob £1 a fuddsoddir mewn caeau chwarae antur olygu elw  o £1.32 ar y buddsoddiad. Dylid rhoi gwerth priodol ar gaeau chwarae a mannau cyhoeddus fel asedau creu iechyd a lles a ffordd o ddelio ag allgáu cymdeithasol.

Awduron yr adroddiad, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a’r ci tywys Jazz (canol), Lucy Bryning (chwith) a Huw Lloyd-Williams (dde)Awduron yr adroddiad, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a’r ci tywys Jazz (canol), Lucy Bryning (chwith) a Huw Lloyd-Williams (dde)Dywedodd yr Athro John R Ashton C.B.E., Cyn Lywydd o'r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus, bod yr adroddiad hwn: 

"yn mynd â ni oddi wrth fath blinedig ond gwerthfawr o economeg gwasanaeth iechyd tuag at ddisgyblaeth newydd o economeg iechyd cyhoeddus sy'n datblygu. Y man cychwyn yw cydnabod bod plant yn yr unfed ganrif ar hugain yn ased sydd angen eu gwerthfawrogi. Y ddealltwriaeth sy'n llifo o'r wybodaeth ymarferol iawn hon yw bod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn anghenraid economaidd ac nid yn rhywbeth moethus."

Daeth yr awduron i’r casgliad, yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol yn cynnwys tystiolaeth gref o effeithiolrwydd rhaglenni ymyrraeth gynnar yng Nghymru, bod buddsoddiad sy'n canolbwyntio ar y ffenest gritigol yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf o fywyd, yn debygol o roi'r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau cyhoeddus, gan greu mwy o elw na mathau eraill o fuddsoddi ariannol a buddsoddi ar adegau eraill yn ystod cwrs bywyd.

Meddai'r Athro Judy Hutchings, OBE, Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor:

"Mae'r Athro Edwards a'i thîm wedi gwneud gwaith ardderchog yn adolygu'r dystiolaeth hon a thynnu sylw at y manteision dynol ac ariannol hirdymor sy'n codi o ymyrraeth gynnar. Mae'n rhaid gweithredu ar yr adroddiad hwn er mwyn unioni effaith allgáu cymdeithasol ar ganlyniadau tymor hir plant difreintiedig."

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2016