Ffisiotherapyddion cyntaf Cymru i gael rhoi presgripsiwn

Y ffisiotherapyddion llwyddiannus yw (ch-dd) Maddy Nicholson, Cathy Wynne, Rob Caine ac Ann Harpum.Y ffisiotherapyddion llwyddiannus yw (ch-dd) Maddy Nicholson, Cathy Wynne, Rob Caine ac Ann Harpum.Mae pedwar ffisiotherapydd sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod y rhai cyntaf ymysg eu proffesiwn yng Nghymru i gael rhoi moddion ar bresgripsiwn i'w cleifion, yn union fel y byddai meddyg teulu'n ei wneud.

Hyd at ddiwedd 2013 dim ond fel 'presgribwyr atodol' y gallai ffisiotherapyddion, podiatryddion a radiograffwyr weithredu ym Mhrydain, a oedd yn golygu bod rhaid cyfeirio eu cleifion at feddyg i gael presgripsiwn ac y gallai'r meddyg ei newid os oedd angen. 

Rob Caine, Maddy Nicholson, Ann Harpum a Cathy Wynne yw'r ffisiotherapyddion cyntaf i gymhwyso ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Bangor.  

Prifysgol Bangor oedd yr unig brifysgol yng Nghymru a gafodd ei dilysu gan y Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd (HCPC) yn Nhachwedd 2013 i gynnal cwrs i alluogi presgribwyr atodol i ddod yn bresgribwyr annibynnol, a chwrs presgribio annibynnol llawn i rai wedi'u cofrestru â'r HCPC.  Mae'r ddeddfwriaeth yng Nghymru'n awr wedi ei diwygio i alluogi'r ffisiotherapyddion hyn i weithredu fel presgribwyr annibynnol yng Nghymru gan ddod â'r sefyllfa'r un fath ag y mae yn Lloegr.

Cafodd yr elfen academaidd ei dysgu a'i hasesu gan Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, gyda'r cymwyseddau clinigol yn cael eu hasesu gan ymarferwyr meddygol penodedig ar lefel ymgynghorydd o fewn y gwasanaeth iechyd.   Mae cyd-arweinwyr y cwrs, Mrs Karen Vipond a Mrs Cherie Weightman, wedi bod yn gweithio'n agos â'r Cyngor Proffesiynol Gofal Iechyd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol, ac mae'r tri chorff rheolaethol hyn wedi dilysu'r cwrs hwn i gael ei gyflwyno ym Mhrifysgol Bangor.   Mae'r cwrs wedi cael ei ddatblygu gan bresgribwyr ar gyfer presgribwyr ac mae'n hyfforddi nyrsys, fferyllwyr, podiatryddion, radiograffwyr, yn ogystal â ffisiotherapyddion, i ddod yn bresgribwyr annibynnol.

Jan Fereday Smith, pennaeth Ffisiotherapi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llongyfarch y ffisiotherapyddion efo tiwtoriaid y cwrs (ch eithaf) Karen Vipond a (de) Cherie Weightman.Jan Fereday Smith (ail o'r chwith), pennaeth Ffisiotherapi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llongyfarch y ffisiotherapyddion efo tiwtoriaid y cwrs (ch eithaf) Karen Vipond a (Dde) Cherie Weightman.Meddai Jan Fereday Smith, pennaeth Ffisiotherapi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Dwi'n hynod falch mai Cathy, Ann, Rob a Maddy ydi'r pedwar ffisiotherapydd cyntaf yng Nghymru i gymhwyso'n bresgribwyr annibynnol - mae'n anrhydedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Mae hyn yn rhoi cyfleoedd gwych i ffisiotherapyddion gymryd rhan flaenllaw mewn cynlluniau gofalu am gleifion."

Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:

"Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn falch o fod wedi cefnogi'r ffisiotherapyddion cyntaf yng Nghymru i ddod yn bresgribwyr annibynnol.  Wrth i swyddogaethau a chyfrifoldebau gofal iechyd newid mewn ymateb i ofynion y system gofal iechyd bresennol, mae'r Ysgol wedi bod yn chwarae rhan allweddol mewn addysgu ymarferwyr iechyd, fel Cathy, Ann, Maddy a Rob i ddatblygu yn eu swyddi er budd cleifion.  Ar ran tîm y cwrs yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, hoffwn ddiolch i'r ymgynghorwyr: Dr Yasmeen Ahmed, Dr Dilesh Thaker, Dr Vanessa Poeppinghaus, a Dr William Whitehead am eu cefnogaeth gyson i'r cwrs yma." 

Meddai Ann Harpum, sy'n gweithio mewn adran frys: "Mae'r cymhwyster yma'n mynd i gynyddu amrywiaeth y cyffuriau allweddol y gallaf eu rhoi i gleifion, yn cynnwys moddion analgesia rhag llid a gwrthfiotigau i drin briwiau."

Meddai Rob Caine, Arbenigwr Clinigol mewn Rhewmatoleg, sy'n gweithio yn Llandudno, Bangor ac ar draws ardal orllewinol yr Ymddiriedolaeth:  "Bydd y cwrs yn ein galluogi i roi gwell gwasanaeth i gleifion - er enghraifft, ni fydd rhaid iddynt ddod yn ôl a gweld meddyg os gallwn ni roi'r moddion iddynt ar bresgripsiwn. Bydd yn arbed amser gan ein galluogi i weithredu'n fwy effeithiol."

Teimla Cathy Wynne, uwch ymarferwr mewn gofal sylfaenol mewn practis meddyg teulu, y bydd y newid "yn gwella'r llwybr gofal i gleifion - dim ond dod i'm gweld i fydd raid iddyn nhw i gael presgripsiwn nawr, fydd dim rhaid iddyn nhw fynd at y meddyg teulu."

Mae Maddy Nicholson yn gweithio yn y tîm rheoli poen yn Ysbyty Abergele ac mae hi'n teimlo y bydd y wybodaeth y mae wedi'i chael drwy'r cwrs yn ei galluogi i gyfrannu at yr adolygiadau achos amlddisgyblaethol yn ymwneud â chleifion.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2014