Mwyafrif o blaid marw â chymorth

Mae ymchwil rhyngwladol newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl a atebodd gwestiynau am hunanladdiad â chymorth o blaid hynny. Mae hyn i’r gwrthwyneb i’r adolygiad ymchwil diweddar sy’n awgrymu bod meddygon  y DU yn  gyson yn gwrthwynebu ewthanasia.

Casglwyd y canlyniadau o farn dros 62,000 o bobl a oedd yn ymateb i nifer fawr o bapurau ymchwil ar y pwnc o wahanol wledydd. Mae’r canlyniadau’n dangos am y tro cyntaf bod  gan bobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau safbwynt tebyg iawn am y pwnc.

Dyma brif ganlyniadau adolygiad pen bwrdd a synthesis o’r holl lenyddiaeth gyhoeddedig am hunanladdiad â chymorth a gasglwyd trwy ddulliau ymchwil  meintiol ac ansoddol. Cynhaliwyd y synthesis gan Brifysgol Bangor ac mae ar fin cael ei gyhoeddi yn Palliative Medicine, (dyddiad cyhoeddi 5 Tachwedd) Medi 2012. Roedd yr adolygiad diweddar o ymchwil gwrthgyferbyniol yn awgrymu bod meddygon y DU yn gwrthwynebu ewthanasia a hunanladdiad â chymorth meddyg yn gyson. Roedd meddygon  yn ystyried bod darparu gofal lliniarol yn bwysig o ran lleihau dioddefaint a’r angen am farw gyda chymorth.

Roedd yr adolygiad gan Brifysgol Bangor yn casglu ynghyd safbwyntiau pobl leyg a oedd yn ymateb i nifer o wahanol themâu ymchwil  ac mae’n rhoi golwg newydd ar farn pobl gyffredin am farw â chymorth. Daw i’r amlwg bod ffactorau seico-emosiynol fel bod yn ddibynnol, bod yn ddiobaith, colli urddas, unigrwydd, colli hunaniaeth a bod yn faich ar bobl eraill ar ddiwedd oes mor bwysig â phoen ac yn gwneud i bobl ystyried hunanladdiad â chymorth. Roedd pobl eisiau cael ymreolaeth a rheolaeth fel y gallent ddewis yr amser iawn i farw. Os mai poen oedd y broblem fwyaf gellid helpu pobl trwy gynnig dulliau da o leddfu poen, ond y farn oedd na  ellid rheoli’r agweddau eraill ar ddioddefaint annioddefol trwy ofal lliniarol.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys barn pobl o wahanol wledydd a chrefyddau,  yn cynnwys y cyhoedd yn  gyffredinol a’r rhai oedd yn dioddef afiechydon sy’n byrhau bywyd fel canser, AIDS a MS a phobl gydag anableddau a’u gofalwyr, ac o wledydd a  thaleithiau lle mae statws cyfreithiol amrywiol i farw â chymorth.

Meddai Maggie Hendry a arweiniodd yr ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor,

“Am y tro cyntaf, rydym yn rhoi llais i farn y mwyafrif ar y pwnc hwn. Yn y cyfryngau, mae’r ddadl yn ymddangos fel pe bai wedi canolbwyntio ar farn y proffesiwn meddygol a’u cynghorwyr cyfreithiol, grwpiau crefyddol ac ychydig o achosion proffil uchel”.

Roedd Mesur Afiechyd Terfynol yr Arglwydd Joffe (a wrthodwyd gan Dŷ’r Arglwyddi yn 2006) yn ei gwneud hi’n ofynnol i feddyg  “ddod i’r casgliad bod  claf yn dioddef yn annioddefol o ganlyniad i afiechyd terfynol”. Ond mater o farn yw a ddylai fod rhaid i feddyg  “gytuno” bod dioddefaint unigolyn yn annioddefol. Os yw meddyg yn cydnabod annibyniaeth yr unigolyn, a’i ganfyddiad ei hun o’i ddioddefaint, mae’r ymchwil hwn yn awgrymu mai’r unigolyn ei hun a ddylai benderfynu.

Meddai’r Athro Clare Wilkinson o Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru,

“Mae ein gwaith yn tynnu sylw at farn gyffredin nifer fawr o bobl, yn cynnwys pobl o Brydain. Mae’n rhaid i’r proffesiwn meddygol gydnabod a pharchu’r safbwynt hwn gan y mwyafrif hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno ag ef.”

Y prif reswm  oedd yn ysgogi pobl i ystyried marw â chymorth oedd dioddefaint annioddefol a sut oedd hynny’n  effeithio ar ansawdd bywyd. Ond roedd sut yr oedd hyn yn cael ei ddiffinio yn dibynnu ar eu safbwynt a’u profiad. Roedd y cyhoedd yn gyffredinol yn dychmygu mai poen difrifol na ellid ei drin oedd y prif reswm i gyfiawnhau marw â chymorth. Roedd y bobl oedd yn sâl neu wedi dioddef o gyflwr sy’n byrhau bywyd yn fwy tebygol o nodi er y gellid helpu poen gyda dulliau da o leddfu poen, nid oedd gofal lliniarol yn gallu lliniaru’r agweddau eraill.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012