Myfyrwraig nyrsio wedi ei henwebu am wobr
Mae Francesca Elner wedi cael ei henwebu ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewis yr Is-Lywydd fel cynrychiolydd cwrs myfyrwyr Nyrsio Oedolion yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.
Nododd Undeb y Myfyrwyr bod Francesca wedi dangos ymroddiad tu hwnt i'r galw, gyda chyfraniad arbennig yn ennyn cyfranogiad myfyrwyr wrth lobïo dros newid, ac yn adrodd yn ôl i Undeb y Myfyrwyr.
Roedd Francesca yn ddiolchgar o gael ei chydnabod am fod yn rhagweithiol yn ei gwaith yn cynrychioli myfyrwyr, cafodd syndod braf a theimlai ei fod yn anrhydedd iddi gael ei hystyried am y wobr hon. Dywedodd: "Nid yn unig mae hyn yn dwyn sylw at y gwaith rwy'n cymryd rhan ynddo ond hefyd at waith caled eraill yn sicrhau bod myfyrwyr yng Nghampws Wrecsam Bangor yn cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd y brifysgol.”
"Fel myfyriwr nyrsio gall fod yn anodd iawn cadw cydbwysedd rhwng holl alwadau'r cwrs, felly mae fy ngwaith cynrychioli yn helpu i sicrhau cefnogaeth dda a chydnabyddiaeth i'm holl gydweithwyr".
Meddai Jo Rycroft Malone, Pennaeth yr Ysgol, "Mae ein cynrychiolwyr myfyrwyr yn rhan werthfawr o'r tîm yn yr Ysgol, ac rwy'n falch iawn o weld enwebiad Francesca ar gyfer Gwobr Dewis yr Is-Lywydd - mae'n gwbl haeddiannol."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015