Parafeddyg Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ennill Cymrodoriaeth PhD o fri!

Llongyfarchiadau i Christopher Evans ar ennill Cymrodoriaeth Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC) ym Mhrifysgol Bangor. Ysgrifennodd Christopher:

"Arweiniodd tair blynedd ar hugain yn gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru at fy swydd bresennol fel Arweinydd y Tîm Clinigol 'Ymateb Cyflym'. Mae'r swydd freintiedig hon wedi dysgu gwir werth gofal integredig i mi ac effeithiau darparu gwasanaeth darniog, a dyna'r sail resymegol dros fy ngwaith ymchwil bresennol. Mae'n fraint gennyf fod y parafeddyg cyntaf i ennill Cymrodoriaeth Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC), ac rwy'n gobeithio gwneud cyfraniad gwerthfawr i faes gofal brys cyn mynd i'r ysbyty. Bydd fy ymchwil yn gwerthuso effaith rhaglen o ofal integredig i osgoi gorfod mynd i'r ysbyty, ar ddefnyddwyr a darparwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Trwy amlinellu prosesau achosol gwaelodol y rhaglen, rwy'n anelu i hwyluso ei aliniad cydgordiol â gwasanaethau cysylltiedig a chyda swyddi'r gwasanaethau brys, i greu llwyfan mwy cynaliadwy a phwrpasol yn glinigol".

Caiff Christopher ei oruchwylio gan Dr Lynne Williams a Dr Siôn Williams, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Ychwanegodd yr Athro Christopher R Burton, Pennaeth yr Ysgol:

"Rydw i wrth fy modd yn croesawu Chris i’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, ac i'n cymuned fywiog o fyfyrwyr PhD. Rwy'n arbennig o hapus bod yr Ysgol yn gallu cefnogi gwaith arloesol ym maes gofal cyn mynd i'r ysbyty a'r gwasanaethau ambiwlans trwy gyfrwng y rhaglen ymchwil bwysig hon. Mae hon yn enghraifft dda o’r modd y gall yr Ysgol gefnogi datblygiad gofal iechyd yng Ngogledd Cymru."

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2016