Cynrychiolwyr rhyngwladol yn cael eu denu i Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Bangor

Daeth cynrychiolwyr o gyn belled â Chanada, Qatar, yr Eidal a Denmarc i ysgol haf ymchwil breswyl Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Mae Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd wedi'i chynllunio i fod yn llwyfan datblygu a dysgu i ymchwilwyr iechyd a meddygol ynghyd â staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal iechyd, ac mae'n gyfle unigryw i unigolion gael dealltwriaeth o'r ymchwil arloesol a wneir mewn gwasanaethau gofal iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ystod yr wythnos a dreuliwyd yng ngogledd Cymru, bu'r cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr a sgyrsiau gan arbenigwyr rhyngwladol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Roedd y pynciau'n cynnwys yr ymchwil ddiweddaraf mewn gwasanaethau dementia, ymchwil gweithredu, economeg iechyd, gofal sylfaenol, treialon clinigol, ymwybyddiaeth iaith a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth. I ddarllen mwy am yr ymchwil gofal iechyd a wneir gan Brifysgol Bangor, ewch i'r wefan hon:

https://www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/research/index.php.cy

Yn ystod yr ysgol haf breswyl lawn, cafodd sesiynau rhyngweithiol eu cynnwys yn y rhaglen i ddangos sut mae Prifysgol Bangor yn arwain ymchwil bwysig a gynlluniwyd i greu amgylchedd ymchwil GIG cryf yng ngogledd Cymru, ac er budd gofal iechyd i gleifion yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd. Cafodd 95% o ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor ei chydnabod gyda'r gorau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF), y system ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU. Gallwch ddarllen mwy am effeithiau yr ymchwil iechyd a wneir ym Mhrifysgol Bangor a’r manteision i gleifion yma:

https://www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/research/impact.php.cy

Ar ddiwedd yr wythnos gofynnwyd i'r cynrychiolwyr roi sylwadau am eu profiadau. Dywedodd un bod rhaglen yr ysgol haf yn darparu cynnwys ardderchog a oedd yn ddiddorol ac yn berthnasol, a bod yr holl sesiynau wedi eu cyflwyno'n effeithiol iawn gan arbenigwyr yn eu maes, gan roi theori gyfoes ac arloesol y gellir ei chymhwyso. Pan ofynnwyd am uchafbwynt personol y profiad, dywedodd cynrychiolydd arall mai'r uchafbwynt oedd cwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau gyda gwahanol gefndiroedd mewn gofal iechyd, a  deall yr angen am ymchwil a'i pherthnasedd o fewn gofal iechyd.

Mae staff a myfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn bwriadu aros mewn cysylltiad â'r cynrychiolwyr, ac mae grŵp Facebook wedi'i sefydlu fel y gall aelodau'r grŵp gadw mewn cysylltiad â'i gilydd i rwydweithio, rhannu syniadau a chefnogaeth wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau am ymchwil gofal iechyd ar gyfer y dyfodol.

Wrth ystyried llwyddiant yr wythnos meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Christopher R. Burton:

"Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn enwog am ragoriaeth ryngwladol ein hymchwil gwasanaethau iechyd, ac am y gymuned gefnogol yr ydym yn ei chreu i staff ymchwil a myfyrwyr. Mae wedi bod yn bleser rhoi cyfle i ymchwilwyr medrus ac uchelgeisiol o bob rhan o'r byd dreulio amser gyda ni yn ein Hysgol Haf".

I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgol haf ymchwil gwasanaethau iechyd yn 2018, cysylltwch â Dr Lynne Williams yn (+44) 01248 383170 neu mae'r manylion ar y wefan: https://www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/summerschool/index.php.cy

 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017