Cyhoeddi Gŵyl Newid Ymddygiad o bwys

Ystyrir bod newid ymddygiad yn gyfrwng hanfodol bwysig i wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau i ymateb i'r newidiadau cyfoes cymdeithasol a demograffig sylweddol rydym yn eu gweld yng Nghymru a thu hwnt. 

Cynhelir Gŵyl Newid Ymddygiad (#BehFest16) bwysig am bythefnos ym Mhrifysgol Bangor rhwng 9-20 Mai. Bydd yn cyflwyno'r datblygiadau diweddaraf ym maes newid ymddygiad i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwybod am y technegau newid ymddygiad hyn a'u rhoi ar waith er budd eu sefydliadau neu'r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae themâu'r ŵyl yn pontio addysg, ymwybyddiaeth ofalgar, caethiwed i sylweddau neu alcohol, iechyd a lles, a defnyddio technoleg mewn newid ymddygiad. 

Bydd cynadleddwyr yn gallu mynd i'r holl ddigwyddiadau am ddim a gynhelir yn ystod yr ŵyl neu ddim ond i ychydig ohonynt fel y dymunant.  Bydd digwyddiadau pob dydd yn cynnwys darlithoedd, gweithdai, seminarau, ffilmiau byr a chyfleoedd i gymdeithasu a rhwydweithio. 

Meddai Dr Carl Hughes, Cyfarwyddwr Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ym Mhrifysgol Bangor, "Mae'r Ẇyl Newid Ymddygiad yn unigryw efallai oherwydd ei bod yn dod â chymaint o wahanol feysydd o'n bywydau at ei gilydd mewn un digwyddiad i wneud i ni feddwl ynghylch sut y gall gwyddor newid ymddygiad helpu i wella ein bywydau."

Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru wedi helpu gwahanol gwmnïau a sefydliadau i ddefnyddio newid ymddygiad, gan gyflwyno newidiadau bach i ddylanwadu ar ymddygiad pobl.   Mae pethau syml fel rhoi olion troed ar y llawr yn arwain at beiriannau hylif glanhau dwylo y tu allan i wardiau ysbyty wedi gwneud i fwy o bobl eu defnyddio. Mae hyn yn hynod bwysig i atal heintiau.  Mae arwyddion tebyg hefyd wedi gwneud i fwy o bobl ddefnyddio'r grisiau yn hytrach na'r lifft mewn adeiladau.  Enghraifft arall yw defnyddio cynlluniau gemau i ysgogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau mathemateg drwy ddefnyddio arweinfyrddau a chardiau fflach cystadleuol.  

Gall cynadleddwyr gael profiad hefyd o dechnegau gwyddor newid ymddygiad, megis cardiau ffyddlondeb, gweithredoedd digymell o garedigrwydd, dyddiaduron digwyddiadau positif, neu sut y gall yr amgylchedd ffisegol a phensaernïaeth newid ein hymddygiad. Bydd trefnwyr yr ŵyl yn rhoi eu gwybodaeth ar waith yn ystod yr ŵyl ei hun gan roi arweiniad i'r cynadleddwyr yn y meysydd hyn. 

Gall unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y theori a'r technegau ddod draw a chael gwybod am y wyddor a'r offer sy'n sail i newid ymddygiad personol. 

Mae'r Ẇyl Newid Ymddygiad yn gynllun ar y cyd rhwng Canolfan Newid Ymddygiad Cymru, Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor a Swyddfa Archwilio Cymru, ynghyd â'r Comisiwn Bevan a nifer o bartneriaid eraill sydd â diddordeb mewn edrych ar ddefnyddio gwyddor newid ymddygiad yn holl feysydd ein bywydau. 

Bydd llawer o academyddion ac ymchwilwyr yr Ysgol Seicoleg, sy'n enwog yn rhyngwladol yn eu meysydd, yn rhoi cyflwyniadau yn yr ŵyl. 

Meddai'r Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol, "Mae gennym gyfres mor gyffrous o sgyrsiau a digwyddiadau ar draws y pythefnos fel bod yna rywbeth i bawb yma.  Rydym yn dod â'r arbenigwyr blaenaf yn eu meysydd i'r ŵyl fel y gall pobl glywed am y datblygiadau diweddaraf a chael cyfle i gyfnewid syniadau gydag ymchwilwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd." 

Bydd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dod i drafod swyddogaeth Gwyddor Newid Ymddygiad mewn gwireddu dyheadau ar gyfer Cymru a'n dyfodol. 

Gall unrhyw un sydd eisiau mynd i'r digwyddiad pythefnos cyfan, neu i ran ohono, fynd i http://www.goodpractice.wales/bangor i weld rhaglen lawn sy'n cynnwys linc i EventBrite i archebu lle.   Archebwch eich lle nawr rhag ofn i chi gael eich siomi.  Os ydych eisiau gwybod mwy, anfonwch e-bost at WCBC@bangor.ac.uk.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2016