Myfyrwyr Bydwreigiaeth yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched
Yn ddiweddar bu myfyrwyr Bydwreigiaeth o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn cyflwyno poster yng nghynhadledd y Fforwm Mamolaeth, Bydwreigiaeth a Babanod yn Llundain.
Roedd eu poster yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymwybyddiaeth bydwragedd o'r posibilrwydd o drais yn erbyn merched, a'r goblygiadau i'w gwaith.
Yn y llun o'r gynhadledd mae (o'r chwith i'r dde) Enfys Elen Roberts, Natalie Pugh, Hannah Eastwood, Megi Elliott ac Andrea Thomas.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2016