Myfyriwr nyrsio anabledd dysgu am wirfoddoli yn Ghana

Ar 28ain o Awst, 2017 bydd Iola Mair Morris myfyriwr nyrsio Anableddau Dysgu yn ei ail flwyddyn yn mynd i Ghana i wirfoddoli am bythefnos. Mae’r prosiect yn gofalu am bobl a phlant ag anabledd dysgu gyda chyfle i wirfoddoli mewn cartref i blant amddifad, ysgolion ac ysbytai.

Mae Iola yn edrych ymlaen at y cyfle: “Rwyf yn edrych ar yr amser dramor fel ffordd i roi nôl, a fydd yn ffordd o gynnydd fy nealltwriaeth o’r byd o fy nghwmpas. Tra byddaf yn gwirfoddoli byddaf yn byw gyda theulu lleol. Credaf bydd y perthnasau hirdymor yr wyf yn gobeithio ei wneud gyda chyd-aelodau’r prosiect a’r teulu lleol, o werth mawr i mi, a gobeithio yn ogystal iddyn nhw. Ar ddiwedd fy nghyfnod gobeithiaf ddychwelyd gyda gwell dealltwriaeth o’r wlad a’r bobl.”

Bydd Iola yn gwirfoddoli gyda sefydliad o’r enw Project Abroad. Gafodd Project Abroad ei sefydlu yn 1992 gyda gwirfoddolwyr yn dysgu Saesneg yn Ddwyrain Ewrop. Erbyn hyn mae'r sefydliad wedi tyfu ac yn cefnogi gwirfoddolwyr mewn 25 o leoliadau o amgylch y byd. Bydd Iola yn ymuno a chymuned o 50,000 o wirfoddolwyr o’r gorffennol a’r presennol, sydd wedi rhoi eu hamser a’u hymdrech i eraill o amgylch y byd.

Bydd yr ymweliad â Ghana yn rhoi cyfle i Iola fyw a gweithio mewn gwlad a diwylliant gwahanol. Mae yn gobeithio bydd ei sgiliau a’i gwybodaeth fel myfyriwr nyrsio anabledd dysgu yn ei galluogi i gyfrannu i ofal nyrsio unigolion yn Ghana. Er gredai Iola fydd gwirfoddoli yn sialens bersonol, mae’n gobeithio dysgu gan y teuluoedd lleol a’r nyrsys y bydd yn gweithio gyda. Yn olaf, mae Iola yn gobeithio bydd gwirfoddoli “yn cyfoethogi fy mhrofiad a rhoi cyfle i mi fod yn berson gwell, gan obeithio bydd hefyd yn cefnogi fy nysgu ac ymarfer ym Mhrifysgol Bangor i’m galluogi i gymhwyso fel Nyrs Gofrestredig Anabledd Dysgu yn y dyfodol”.

Am fwy o wybodaeth am ei thaith i Ghana cysylltwch â: Iola Mair Morris, hsua25@bangor.ac.uk neu os hoffech gyfrannu i’r Prosiect yn Ghana: https://www.myprojectsabroad.org/fundraising/mLy2zJ

 Am fwy o wybodaeth am gwrs Baglor Nyrsio Anabledd Dysgu cysylltwch â: David Allsup, d.m.allsup@bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017