£1.8m o gyllid i astu daeth newydd o bwys ar reoli gwaedu ar ôl genedigaeth

Mae £1.8m o gyllid gan Sefydliad Cenedlaethol y DU dros Ymchwil Iechyd (NIHR) wedi ei ddyfarnu i gynnal astudiaeth o bwys ar drin gwaedu gyda chyffuriau ar ôl genedigaeth (COPE).

Bydd y partner sy'n arwain yr astudiaeth, sef Prifysgol Lerpwl, yn galw ar arbenigedd yr Athro Dyfrig Hughes a'i dîm yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o'r project. Bydd CHEME, sy'n uned o fewn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn arwain gwerthusiad economaidd y treial, er mwyn penderfynu pa gyffuriau - oxytocin neu carboprost - sydd fwyaf cost-effeithiol i reoli gwaedu ar ôl genedigaeth.

Mae gwaedu ar ôl genedigaeth yn fater brys arwyddocaol sy'n effeithio ar 40,000 o fenywod ym Mhrydain pob blwyddyn. Er y gellir ei drin yn y DU fel arfer, gall arwain at gymhlethdodau hirbarhaol. Yn fyd-eang, fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn un o'r prif achosion o farwolaeth ac mae'n gyfrifol am tua 25% o'r 289,000 o farwolaethau mamol pob blwyddyn. Amcangyfrifir bod dynes yn marw rhywle yn y byd pob 6 munud o ganlyniad i hyn.

Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod pa driniaeth sy'n fwy effeithiol.  Bydd yr arbenigwyr economeg iechyd yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o asesu hynny fel rhan o'r astudiaeth hon.

Bydd yr astudiaeth COPE yn cymharu defnyddio'r pigiadau hyn a bydd yn cynnwys bron i 4,000 o ferched sy'n gwaedu ar ôl genedigaeth mewn 40 o ysbytai ledled y DU. Bydd y merched fydd yn cymryd rhan yn cael un o'r ddau bigiad, ynghyd â ffug gyffur cyfatebol. Yn y modd hwn, ni fydd unrhyw un yn gwybod pa gyffur maent wedi ei gael. Dim ond pan fydd yr astudiaeth ar ben a'r codau'n cael eu torri y gellir cymharu canlyniadau'r rhai a gafodd ocsitosin â'r rhai a gafodd carboprost.

Meddai'r Athro Christopher Burton, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:

"Gallai'r astudiaeth hon fod yn un bwysig dros ben a gwella diogelwch genedigaeth ledled y byd, ac rwy'n hynod falch bod Prifysgol Bangor yn cefnogi'r astudiaeth. Rydym yn cael ein cydnabod am ragoriaeth ryngwladol ein gwaith ymchwil ym maes economeg iechyd, a bydd ein hacademyddion yn chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o asesu pa gyffuriau sy'n gweithio orau i drin gwaedu ar ôl genedigaeth."

Meddai'r Athro Paul Brocklehurst, arweinydd gweithredol Sefydliad Cenedlaethol y DU dros Ymchwil Iechyd:

"Mae hyn yn tynnu sylw at gryfder ac amrywiaeth gwirioneddol y gwaith sy'n cael ei wneud yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor."

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2017