Myfyriwr Ôl-radd yn ennill gwobr o fri ar ôl graddio ddwywaith

Emyr WilliamsEmyr Williams“Rhyfeddol” ac “ysbrydoledig” yw’r rhai o’r geiriau sydd wedi’u defnyddio i ddisgrifio dyn o Gonwy ar ôl iddo droi gofalu am ei fam yn waith llawn amser; gan ailhyfforddi a graddio am yr eildro.

Ag yntau’n 47 oed, penderfynodd Emyr Williams dderbyn cynnig dileu swydd ar ôl gweithio am bum mlynedd ar hugain yn y sector gwirfoddol. Yn y cyfnod hwn roedd yn galaru am ei dad ac yn gofalu am ei fam hefyd a oedd â phroblemau iechyd meddwl. Ond mae ei ymrwymiad i ddysgu wedi gweddnewid ei fywyd ac mae wedi ennill y wobr “Newid Bywyd a Gyrfa” yng Ngwobrau Ysbrydoli eleni.

Roedd Emyr, o gefn gwlad dyffryn Conwy, yn gwirfoddoli eisoes fel gwirfoddolwr ‘Robin’ gyda phobl hŷn yn Uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd, pan benderfynodd ailhyfforddi fel Ymarferydd Iechyd Meddwl. Treuliodd dair blynedd yn astudio am radd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Bangor, gofalu am ei fam a gweithio’n rhan-amser yr un pryd.

Meddai: “Ro’n i’n gweithio llawer wrth astudio, doedd gen i ddim dewis. Roedd rhaid talu’r biliau o hyd; ro’n i’n gweithio pob munud sbâr oedd gen i.

“Dyw bod yn ofalwr byth yn hawdd. Pan ddechreuais i fy nghwrs roedd mam gartref, ond yna bu yn yr ysbyty am gyfnodau hir. Yn aml, fe fyddwn i’n teithio 120 milltir sawl gwaith yr wythnos er mwyn mynd i ddarlithoedd, lleoliadau ac ymweld â hi’n gyson yn yr ysbyty. Ond ni wnaeth hynny fy rhwystro i; ro’n i’n benderfynol o gyflawni fy nod o fod yn Nyrs Iechyd Meddwl.”

Ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn 50 oed enillodd Emyr Radd Baglor Nyrsio Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Nyrsio Iechyd Meddwl. Erbyn hyn mae’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Nyrs Seiciatrig Gymunedol, gyda phobl hŷn, ac yn astudio’n rhan-amser am radd Meistr mewn Astudiaethau Dementia, hefyd ym Mhrifysgol Bangor. Gobaith Emyr yw y bydd yn dod yn ymarferydd gwell wrth barhau â’i daith ddysgu.

“Dwi wrth fy modd yn fy ngwaith; mae yna lawer o gyfrifoldeb ond mae’n rhoi cymaint o foddhad”.

Mae Emyr yn cefnogi Wythnos Addysg Oedolion, sy’n para o 25 Mehefin tan 1 Gorffennaf ac yn dathlu dysgu gydol oes; boed yn y gwaith, fel rhan o gwrs addysg cymunedol, yn y coleg, mewn prifysgol neu ar-lein.

Meddai: “Ni ddylai oedran fod yn rhwystr. Roedd mynd nôl i brifysgol yn teimlo braidd yn rhyfedd ar y dechrau, ond dwi wedi gwneud ffrindiau am oes ac yn teimlo’n ifanc eto. Dwi wedi gallu ailddechrau fy mywyd.”

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni a’i nod yw hyrwyddo’r dewis eang o gyrsiau sydd ar gael i oedolion sydd am ddysgu, o ieithoedd i gyfrifiadura, o ofal plant i gyllid.

Cynhelir Gwobrau Ysbrydoli! bob blwyddyn cyn Wythnos Addysg Oedolion i ddathlu llwyddiannau dysgwyr eithriadol yng Nghymru sydd wedi dangos brwdfrydedd, ymrwymiad ac ymdrech eithriadol i ddysgu; a hynny yn wyneb amgylchiadau anodd yn aml.

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei threfnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae ymgyrch ar y cyd ar waith i hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yn ystod yr wythnos a chodi ymwybyddiaeth o Borth Sgiliau Llywodraeth Cymru i oedolion – gwasanaeth a ddarperir gan Gyrfa Cymru ac sy’n cynnig gwasanaeth  gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd dwyieithog ledled Cymru gyfan i unigolion 18 oed a throsodd.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi’r cyfle i bawb ledled Cymru ddysgu rhywbeth newydd, boed yn ddysgu yn y cartref, yn y gweithle neu yn eich cymuned leol.

“Gobeithio y bydd ein hymgyrch yn annog oedolion i gael rhagor o wybodaeth am sut i wella eu sgiliau a’u hopsiynau gyrfa drwy ymuno â digwyddiad dysgwyr yn eu hardal ar unrhyw beth o gymorth cyntaf i ffotograffiaeth ddigidol. Gall oedolion ddefnyddio’r Porth Sgiliau i gael cyngor a chyfarwyddyd ar yrfaoedd hefyd, waeth a ydynt am wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd, cael hyfforddiant neu fynd nôl i weithio.”

Meddai Cerys Furlong, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn ein hatgoffa pa mor rymus yw dysgu. Mae pob enillydd wedi dangos gwaith caled a phenderfyniad a phob un ohonynt wedi cyflawni gymaint; dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol. Mae yna rywbeth i bawb yn ystod Wythnos Addysg Oedolion a hoffwn annog pawb i fynd i ddigwyddiad dysgu i ddechrau ar eu taith”.

Straeon perthnasol:
Gofalwr penderfynol yn graddio am yr ail dro gyda balchder

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2016