Trefnu bod Data ar Gael ar gyfer Ymchwil

SAIL a NWORTH yn Cytuno ar Gydweithrediad Strategol

Mae SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) a NWORTH (Uned Dreialon Cinigol Bangor sydd yn ran o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd) wedi cytuno i gydweithio mewn partneriaeth. Mae SAIL yn adnodd byd-eang yn canolbwyntio ar wella iechyd, lles a gwasanaethau. Cydnabyddir ei gronfa ddata o wybodaeth ddienw am boblogaeth Cymru ar raddfa fyd-eang. Mae SAIL a NWORTH ill dau’n cael cyllid craidd o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (a adwaenid gynt fel Sefydliad Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd). Cedwir amrywiaeth o gyfresi data personol yn SAIL ac, yn amodol ar amddiffyniadau a chymeradwyaeth, mae modd eu cyd-gysylltu’n ddienw er mwyn ymdrin â chwestiynau pwysig mewn ymchwil. 

Mae gan SAIL a NWORTH ddiddordeb mewn cynyddu maint ac ansawdd yr ymchwil gysylltiedig ag iechyd sy’n digwydd o fewn Cymru, a’r naill sefydliad yn cydnabod cyfraniad pwysig y llall at hyrwyddo agenda ymchwil. Mae Gogledd Cymru â nifer o nodweddion sy’n ei wneud yn rhanbarth delfrydol o ran cynnal profion clinigol ac ymchwil eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd. Ar hyn o bryd, mae nifer o fentrau cenedlaethol a rhanbarthol yn gweithio er mwyn cynyddu lefel gweithgaredd ymchwil yng Ngogledd Cymru, o fewn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, fel ei gilydd. Mae i SAIL gryn bosibiliadau o ran ychwanegu gwerth at amrywiaeth o brojectau ymchwil iechyd, o brofion clinigol hyd at astudiaethau epidemiolegol.

Byddai partner strategol wedi’i leoli o fewn Gogledd Cymru a allai weithredu fel cyswllt lleol ar gyfer grwpiau ymchwil yn gymorth wrth annog cymuned ymchwil Gogledd Cymru i weithio gyda SAIL. Mae NWORTH â thîm sefydlog o arbenigwyr ymchwil iechyd a chanddynt arbenigedd ym meysydd cynllunio astudiaethau, rheoli profion a phrojectau, a dadansoddi data, felly byddai’n bartner priodol i ddarparu’r cyswllt lleol hwn â SAIL.

Mae’r cydweithrediad hwn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ymchwilwyr iechyd yng Ngogledd Cymru mewn llawer o amgylchiadau sy’n gofyn am ddata ar ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Rheolir yr holl brojectau sy’n deillio o’r cydweithrediad hwn trwy gontractau unigol a fydd yn penderfynu yng nghyswllt Eiddo Deallusol a Llywodraethu Gwybodaeth fesul achos.

Egwyddorion cydweithredu

Mae’r ddau sefydliad wedi cytuno i gydweithio fel a ganlyn:

Mae’r cydweithrediad yn gwella project Llwyfan Data Iechyd NWORTH sy’n ceisio trefnu bod data cysylltiedig ag iechyd a gesglir yn rheolaidd ar gael  ymchwilwyr, a hynny mewn modd rheoledig a diogel. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kevin Mawdesley ar: k.mawdesley@bangor.ac.uk, 01248 388222 (est. 8222) neu ewch i’n gwefan trwy’r cyswllt canlynol: http://nworth-ctu.bangor.ac.uk/nworth-collaboration.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2015