Effaith ymchwil i arthritis rhiwmatoid wedi'i gydnabod yn yr Unol Daleithiau

Cafodd papur a ysgrifennwyd gan yr Athro Andrew Lemmey (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer) o'r enw “Tight control of disease activity fails to improve body composition or physical function in rheumatoid arthritis patients” ei ddyfarnu fel yr erthygl fwyaf poblogaidd am arthritis rhiwmatoid yn 2016 gan Rheumatology Advisor (newyddlen wythnosol yn yr Unol Daleithiau sy'n dewis y goreuon a chrynhoi erthyglau o'r holl brif gyfnodolion rhiwmatoleg rhyngwladol). Mae hyn yn dilyn canmoliaeth arall gan y newyddlen ym mis Mehefin ar ôl ei ddewis fel y papur mwyaf diddorol yn y wasg ar gyfer podlediad.   

Mae colli cyhyrau a chynnydd mewn màs braster yn nodweddion o arthritis rhiwmatoid (RA).  Mae'r newidiadau andwyol hyn yng nghyfansoddiad y corff yn cael effaith amlwg ar weithrediad y corff (hynny yw, cynyddu anabledd) a chynyddu'r risg o afiechyd cardiofasgwlar, sef prif achosion marwolaeth y cleifion hyn. Daeth ymchwil yr Athro Lemmey i'r casgliad bod cleifion RA a gafodd driniaeth 'lwyddiannus' gyda dulliau cyfredol (roedd hanner ohonynt yn 'gwella dros dro') yn parhau i fod wedi colli llawer o gyhyrau ac yn dewach nag unigolion eisteddog, iach o'r un oed a'r un rhyw.  Roeddent hefyd yn cael llawer mwy o anhawster gyda thasgau dyddiol, gyda'r cleifion RA dim ond yn gallu gwneud 2/3 o'r hyn roedd unigolion eisteddog, iach o'r un oed a'r un rhyw yn gallu eu gwneud.   I roi'r diffyg gweithredol mewn cyd-destun, mae'r cleifion RA sy'n 60 oed yn perfformio'r prawf gweithrediad ar gyfartaledd ar yr un lefel ag oedolion iach o'r un rhyw sydd yn 85 oed! 

Mae'r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at gymaint y mae cyfansoddiad gwael y corff yn cyfrannu at anabledd cleifion, a'r angen am driniaethau ychwanegol sy'n gwella cyfansoddiad y corff yn benodol er mwyn sicrhau gwelliannau ystyrlon o ran anabledd a lles cleifion RA.  

Gwnaed yr ymchwil ar y cyd â chlinigwyr Canolfan Rhiwmategol Peter Maddison ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda rhai ohonynt yn dal penodiadau ar y cyd, fel rhan o gydweithrediad hir gyda'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sydd wedi cynhyrchu dwsinau o bapurau academaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd myfyrwyr meddygol rhyngosodol o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a oedd yn treulio blwyddyn yn astudio ym Mangor, hefyd yn gysylltiedig â'r ymchwil.

Dywedodd yr Athro Lemmey, "Mae'r ymchwil yn arwydd clir i ddarparwyr triniaeth RA bod rhaid canolbwyntio mwy ar strategaethau penodol wedi eu hanelu at gynyddu màs a chryfder cyhyrau, a lleihau màs braster er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl.

Meddai Dr Y Amhad, "Mae rhoi triniaeth ddwys ynghynt i gleifion RA  a chyda thargedau llym wedi gwella canlyniadau fel gweithgarwch y clefyd a difrod pelydr-x.  Ond mae ein hymchwil wedi dangos na welir y gwelliant hwn mewn gweithrediad a lles cyhyrau, sydd â goblygiadau mawr. Nid yw hyn yn cael ei werthfawrogi gan glinigwyr Rhiwmatoleg ledled y byd ac mae angen rhoi rhagor o bwyslais ar ddeall pam a sut y gallwn wella hyn.

Papur: Tight control of disease activity fails to improve body composition or physical function in rheumatoid arthritis patients

Lemmey AB, Wilkinson TJ, Clayton RJ, Sheikh F, Whale J, Jones HS, Ahmad YA, Chitale S, Jones JG, Maddison PJ, O’Brien TD. Rheumatology 2016, 55(10):1736-1745.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2017