Newyddion: Mawrth 2019

Treial i ateb penbleth trin epilepsi plant

Mae un o'r treialon clinigol mwyaf erioed mewn plant ag epilepsi, sydd newydd gael ei lansio, yn ceisio darganfod pa driniaeth sy'n gweithio orau i blant a'u teuluoedd. Arweinir y treial CASTLE cenedlaethol gan yr Athro Deb Pal o King's College Llundain a'r Athro Paul Gringras o Ysbyty Plant Evelina Llundain, mewn cydweithrediad â'r Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor. Dyma'r unig dreial i gymharu cyffuriau gwrth-epileptig gyda monitro gweithredol heb unrhyw feddyginiaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019

New study calculates alcohol cancer risk in cigarette equivalents to help communicate risk

Mae’r Athro Mark Bellis o’r Coleg Gwyddorau Dynol wedi bod yn ymwneud ag ymchwil sydd yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019

Dwy o Brifysgol Bangor ar Restr Fer Gwobrau Merched Cymru

Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau newydd Gwobrau Merched Cymru 2019. Mae Clare Wilkinson a Debbie Roberts, ill dwy o Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol, wedi eu gosod ar y rhestr fer am eu Gwasanaethau i Addysg.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019

Gwyliwch y bwlch: Gwahaniaethau mewn agweddau at iechyd a gwella iechyd ar draws y gymdeithas yng Nghymru

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn amlygu gwahaniaethau amlwg o ran barn sy'n ymwneud ag iechyd rhwng pobl yng Nghymru yn dibynnu ar eu hoedran a'u cyflogaeth, a sut y maent yn byw eu bywydau. Roedd pobl a ddywedodd eu bod yn teimlo'n iach yn fwy tebygol o gytuno (59 y cant) y dylai'r GIG wario llai ar drin salwch a mwy ar ei atal na'r rhai a ddywedodd eu bod yn teimlo'n llai iach (46 y cant) - a allai deimlo mwy o angen am driniaeth iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019

Myfyrwyr a staff Bangor ar y rhestr fer yng Ngwobrau 2019 y Student Nursing Times

Two students and two lecturers in Bangor University’s highly ranked School of Health Sciences have been shortlisted in several of this year’s Student Nursing Times Awards.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2019