Newyddion: Ionawr 2019
Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo'n cael ei danbrisio
Yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw'r ffocws presennol ar unigolion sy'n 'gamblwyr problemus' yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas ac mae hynny'n diystyru'r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019
Mae Jade Parsons, myfyriwr bydwreigiaeth, wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am wobr myfyriwr bydwreigiaeth y flwyddyn y British Journal of Midwifery Practice Awards 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2019
Dull gwell o adrodd am ymchwil a fydd yn gwella gofal cleifion
Gallai cleifion gael gofal a chanlyniadau gwell yn sgil canllawiau newydd ar adrodd am ymchwil a ddatblygwyd o astudiaeth a gyfrannodd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ati. Mae arbenigwyr wedi datblygu dull sy'n hwyluso’r broses o adrodd am ganfyddiadau gwahanol astudiaethau ansoddol megis gwybodaeth a gasglwyd o gyfweliadau â chleifion a grwpiau ffocws. Mae'r astudiaeth wedi arwain at lunio’r canllawiau cyntaf wedi’u teilwra ar gyfer adrodd ar y fethodoleg hon, a elwir yn feta-ethnograffeg. Bydd yn rhoi mwy o hyder i ymchwilwyr a phenaethiaid gofal iechyd yng nghanfyddiadau astudiaethau ansoddol ac, yn y pen draw, yn helpu i wella gofal cleifion a gwasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019
Asesu gwerth grwpiau cefnogi dementia
New ageing and dementia research at Bangor University will soon be underway, with a team from the Bangor Institute of Health and Medical Research in the School of Health Sciences being the only university in Wales to be awarded funding as part of the ESRC-NIHR Dementia Research Initiative 2018 . This programme of work, led by partners at University College London, centres around people living with rare dementias, and will involve the first major study of the value of support groups for people living with or caring for someone with a rare form of dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
Efelychu Rhyngbroffesiynol
Bu myfyrwyr maes plant a radiograffeg y drydedd flwyddyn yn cymryd rhan mewn ymarferiad efelychu rhyngbroffesiynol cyntaf yr ysgol. Gwnaed yr efelychu'n bosib ar ôl prynu offer efelychu maes plant newydd o ansawdd da ac fe'i cynhaliwyd yn ystafell Pelydr-X yr adran radioleg yng Nghampws Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019