Newyddion: Ebrill 2019

Dioddefodd mwy nag wyth o bob deg dyn yn y carchar drallod yn ystod plentyndod – adroddiad newydd

Trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â mwy o amser yn y carchar, troseddu treisgar a hanes o amser mewn sefydliadau troseddwyr ifanc Mae carcharorion gwrywaidd yn llawer mwy tebygol na dynion yn y boblogaeth ehangach o fod wedi dioddef trallod yn ystod plentyndod fel camarfer plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gallai camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) atal troseddu a lleihau costau ar gyfer y system cyfiawnder troseddol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019

Economegwyr Iechyd o Brifysgol Bangor ymhlith yr ymchwilwyr iechyd gorau yng Nghymru

Mae'r Athro Rhiannon Tudor Edwards a'r Athro Dyfrig Hughes, o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginia ethau ym Mhrifysgol Bangor wedi eu enwi fel dau o'r 15 Uwch Arweinydd Ymchwil a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn eu cystadleuaeth agored 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019

Gall y celfyddydau wella'r berthynas rhwng staff gofal dementia a phreswylwyr cartrefi gofal

Dangoswyd bod y celfyddydau yn cadarnhau sgiliau a hyder staff gofal dementia, gan alluogi cyfnewid ystyrlon gyda phreswylwyr a all fod yn greadigol, 'yn y foment', yn ddigymell ac yn fyrfyfyr. Arweiniodd partneriaeth rhwng Canolfan Ymchwil DSDC Cymru Prifysgol Bangor (y grŵp ymchwil o Heneiddio a Dementia @ Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ), Dementia Positive , Ymgynghoriaeth TenFiveTen a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint at sefydlu project ymchwil 18 mis a ddatblygodd a rhoi prawf ar Sgyrsiau Creadigol, rhaglen datblygu staff wedi'i seilio ar y celfyddydau ar gyfer gweithlu gofal dementia.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2019