Newyddion: Rhagfyr 2018

Y Drydedd Ymgyrch Elusennol Flynyddol dros Anrhegion i Gleifion!

Mae Cymdeithas Nyrsio'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn casglu anrhegion i'w rhoi i gleifion am y drydedd flwyddyn o dan yr apêl Anrhegion i Gleifion.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2018

Ymchwil rhyngwladol yn datgelu her canser y coluddyn

Mae Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o adolygiad mawr, rhyngwladol o amseroedd triniaeth i bobl â chanser y coluddyn. Cydweithrediad rhwng gwledydd â systemau gofal iechyd tebyg sy'n meddu ar ddata o ansawdd uchel yw'r Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP) a aeth ati i olrhain pob cam yr aeth pobl â chanser y coluddyn trwyddo cyn cael triniaeth. Cydlynwyd yr astudiaeth yn y Deyrnas Unedig gan Cancer Research UK, ac ariannwyd elfen Cymru o'r astudiaeth gan Ymchwil Canser Cymru. Adroddwyd am yr astudiaeth yn BMJ Open . Archwiliwyd holiaduron gan 2,866 o gleifion a'u meddygon yn rhyngwladol, yn ogystal â chofnodion meddygol cleifion a gafodd ddiagnosis rhwng 2013 a 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2018